Tuesday, March 4, 2008

Adroddiad o gyfarfod ‘Tynged yr Ysgolion” a gynhaliwyd ar Ddydd Gwyl Dewi yn Ysgol Glan-y-Môr, Pwllheli.

Daeth cynulleidfa o 300 i Bwllheli fore dydd Sadwrn. Er gwaethaf y beirniadu llym a negyddol am y cyfarfod yn y wasg yn ystod yr wythnosau diwethaf ,fe lwyddwyd i greu awyrgylch dawel a chyfrifol, a chyflwynwyd gwybodaeth ffeithiol ac adeiladol gan y siaradwyr - Bob Dorkins, Twm Prys Jones, Y Cyng. Penri Jones, Y Cyng. Seimon Glyn, Y Cyng. E. Selwyn Griffiths, Myrddin ap Dafydd, Ffred Ffransis a Ieuan Wyn.

Roedd Arweinydd y cyngor Richard Parry Hughes a nifer o gynghorwyr eraill sydd wedi pleidleisio o blaid y ddogfen yn bresennol yn y cyfarfod ac fe’i cymeradwywyd gan Robyn Lèwis, y cadeirydd am fod yno. Cyflwynodd y siaradwyr sawl dull gwahanol o weithredu i’r Cyngor a gobaith y dyrfa oedd y byddai’r cynghorwyr agor eu meddyliau i dderbyn syniadau a gwybodaeth newydd.

Ar ddiwedd y cyfarfod fe gyflwynwyd cynnig i’r gynulleidfa a chafodd ei basio gyda mwyafrif llethol. Dyma eiriad y cynnig a roddwyd gerbron.

“ Yr ydym ni sydd wedi ymgynnull yma yn Ysgol Glan-y-Môr, Pwllheli ar Ddydd Gŵyl Dewi, 2008 yn galw ar Gyngor Gwynedd i roi o’r neilltu yr ymgynghoriad presennol ar ad-drefnu ysgolion cynradd, a llunio cynllun drafft newydd yng ngoleuni’r canlynol:

1.proffiliau ieithyddol, diwylliannol a chymdeithasol o’r ysgolion a’r cymdogaethau; ac asesiadau ardrawiad ieithyddol, diwylliannol a chymdeithasol mewn perthynas â’r ysgolion a’r cymdogaethau.

2.astudiaethau cymharol helaethach er mwyn ehangu’r dewisiadau i gynnwys cydweithio ffurfiol a gwahanol fathau o glystyru ac o ffederaleiddio.

3.barn rhieni a chyrff llywodraethol lleol. ”


Bydd y trefnwyr yn cyflwyno y cynnig i’r Cyngor.


Gellir gweld manylion pellach o’r cyfarfod ar http://ysgol.co.uk




Wednesday, February 27, 2008

Cyfarfod Dydd Gwyl Dewi / St Davids Day Meeting

Mae Cyfeillion Llŷn a Fforwm Llywodraethwyr Llŷn gyda chynghrair o gefnogwyr yn trefnu cyfarfod am 10.30 y bore ym Mhwllheli ar Fawrth y 1af.

Nid cyfarfod protest fydd hwn ond cyfarfod adeiladol wedi ei alw gyda chefnogaeth cynghrair o sefydliadau, mudiadau, a chyrff sydd am weld ffordd well ymlaen i ddatrys problemau ysgolion cynradd Gwynedd.

Bydd y cyfarfod yn cynnig llwyfan i unigolion/mudiadau gyflwyno ffeithiau newydd/atebion eraill i Drefniadaeth Ysgolion yng Ngwynedd, ac ystyried yr effaith ar yr iaith yn ein cymunedau cefn gwlad.

Ysgol Glan-y-Mor, Pwllheli

10:30am Mawrth 1 March